#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-792

Teitl y ddeiseb: Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

Testun y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn cyflwyno'r ddeiseb hon i Gynulliad Cymru er mwyn ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ar yr A487 i ffin y plwyf ble mae'r terfyn 50 mya yn dechrau.

Ar hyn o bryd mae'r terfyn 40mya yn dod i ben cyn ble'r oedd yr ysgol leol gynt, ar ffordd Lon-yr-Ysgol. Mae'r ysgol bellach wedi cau, ond mae'r plant yn dal yma, ac maent bellach yn cael eu codi yn arosfan bws Lon-yr-Ysgol ble y byddant yn aros, ar brydiau gyda rhieni gyda phlant bach, am y bws ysgol. Yn y prynhawn, pan fyddant yn cael eu gollwng ar ddiwedd y dydd, mae'n sefyllfa wahanol, gan bod yn rhaid i'r plant groesi'r A487 o ochr arall y ffordd.

Y cyfyngiad cyflymder yn y man lle y mae'r plant yn gorfod croesi'r ffordd yw 60mya ac mae'r traffig, sydd wedi'i ryddhau o gyfyngiadau'r parth 40mya, yn cyflymu ac yn aml yn goddiweddyd ar y rhan syth hon o'r ffordd.  Draw yr ochr bellaf i'r ffordd nid oes arwydd 'Araf – Plant yn croesi', dim arwydd arosfan bws na lloches arosfan bws i roi rhybudd i fodurwyr y gallai cerddwyr fod yn croesi.

Dyma hefyd y man ble y mae'r ramp mynediad i'r anabl wedi'i leoli ar ddwy ochr y ffordd, a defnyddir hwn gan rieni â chadeiriau gwthio a'r henoed gyda fframiau cerdded yn ogystal â chan bobl gydag anabledd ac ati.

Bu un farwolaeth eisoes ar y rhan hon o'r ffordd a'r wythnos diwethaf cafodd cerbyd mawr arall ddamwain a mynd oddi ar y ffordd a thrwy'r gwrych, gan falurio rhan fawr o ffens.

Credaf mai mater o amser yn unig yw nes y bydd plentyn yn colli ei fywyd.

Ers i'r terfyn cyflymder gael ei osod ar y ffordd, adeiladwyd fferm solar gyda mynediad i'r rhan hon o'r ffordd a thraffig ychwanegol.  Hefyd mae hen adeiladau'r ysgol wedi dod yn barc busnes, gyda siop sglodion, busnes ceiropractydd, warws carpedi, man golchi ceir, ac mae rhagor i ddod.

Mae hyn oll wedi arwain at gynnydd o ran traffig trwm sy'n troi i mewn i Lon-yr-Ysgol ac yn ceisio ei gadael.

Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Gynulliad Cymru roi blaenoriaeth i ddiogelwch ein plant, ac ymestyn y parth 40mya i gynnwys y rhan gyfan o'r A487 o fewn ffin y plwyf.

Cefndir

Mae cefnffordd yr A487 yn rhan o'r rhwydwaith o gefnffyrdd sy'n cysylltu Abergwaun yn Sir Benfro gyda gogledd Cymru. Mae map o rwydwaith cefnffyrdd Cymru ar gael yma.

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys yr A487. Cyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yw'r gwaith o gynnal a chadw'r A487 i'r gogledd o Aberteifi.  Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelwch y rhwydwaith cefnffyrdd.

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (fel y'i diwygiwyd) yn nodi'r polisïau teithio i'r ysgol sydd ar waith yng Nghymru.  Mae Adran 2 o'r Mesur yn creu dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr.  Mae darpariaeth statudol a chanllawiau gweithredol 2014 mewn perthynas â theithio gan ddysgwyr (PDF 800KB) yn egluro bod yn rhaid i awdurdod lleol, wrth asesu anghenion teithio dysgwyr,  ystyried:

Natur y llwybr y disgwylir i'r dysgwr ei gymryd rhwng y cartref a’r lleoliadau lle y cynhelir yr addysg neu'r hyfforddiant ar eu cyfer.

Mae Fframwaith Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru (2013) yn nodi targedau diogelwch ffyrdd y Llywodraeth a'r camau gweithredu cysylltiedig.  Mae Llywodraeth Cymru am weld yr ystadegau canlynol ar gyfer holl ffyrdd Cymru erbyn 2020, o gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer 2004-2008:

§    40 y cant yn llai yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

§    25 y cant yn llai o feicwyr modur yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; a

§    40 y cant yn llai o bobl ifanc (16-24 oed) yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

Mae paragraff 53 o'r Fframwaith yn nodi:

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael cludiant ysgol diogel i bob disgybl.  Mae hanes diogelwch cludiant ysgol dynodedig yng Nghymru yn dda iawn - rhaid i ni weithio i sicrhau bod hyn yn parhau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ynghylch Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru yn 2009.  Dylid defnyddio'r canllawiau hyn “i bennu pob terfyn cyflymder lleol ar gefnffyrdd a ffyrdd sirol”. 

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd

Yn 2013, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o ddiogelwch cefnffyrdd. Fel y nodwyd mewn llythyr a anfonwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yn sgil yr adolygiad hwn, cyflwynwyd terfyn cyflymder o 40mya ar ran o'r A487 ym Mlaenporth yn 2014. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi mapio canlyniadau'r adolygiad o ddiogelwch ar y ffyrdd.  Yn ôl yr ymarfer mapio hwn, yn sgil yr adolygiad, daethpwyd i'r casgliad y dylid cadw terfyn cyflymder o 60mya ar y naill ochr a'r llall i'r parth 40mya, ac nad oedd unrhyw waith peirianneg neu ymyriadau diogelwch ffyrdd eraill yn yr arfaeth.

Fodd bynnag, mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi:

We have recently commenced a three year Speed Limit Review looking at road safety issues at over 600 sites on all trunk roads in Wales. I have asked my officials to take on board the comments raised within the petition as part of this process, when this section of the A487 is reviewed.

Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr adolygiad hwn yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2017:

Rwy’n edrych eleni...ar yr adolygiad o derfynau cyflymder, sef adolygiad sy’n edrych i weld a ddylid gostwng terfynau cyflymder mewn mannau prysur, yn enwedig ger ysgolion.  Rwy’n bwriadu ei ddiweddaru eleni oherwydd, fel y dywedais, credaf fod yn rhaid i ni ostwng cyflymder teithio cerbydau y tu allan i ysgolion ac yn agos atynt.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw'r Gwasanaeth Ymchwil wedi canfod unrhyw gyfeiriad at ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth, sef y cam y cyfeirir ato yn y ddeiseb hon.

Fel y mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi, bu Pwyllgor Deisebau'r Pedwerydd Cynulliad yn trafod deiseb a oedd yn galw am gyflwyno "terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth Ceredigion".  Trafodwyd y ddeiseb honno am y tro cyntaf ym mis Hydref 2012. Cafodd ei chau ym mis Medi 2013 yn dilyn cadarnhad gan y Gweinidog ar y pryd bod bwriad i gyflwyno terfyn cyflymder o 40mya yn gynnar yn 2014.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.